Datganiad Hygyrchedd
Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i wefan Fforwm Gwydnwch Lleol De Cymru.
Mae'r wefan hon yn cael ei rhedeg gan Gyngor Bro Morgannwg. Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio'r wefan hon. Er enghraifft, mae hynny'n golygu y dylech allu:
- newid lliwiau, lefelau cyferbyniad a ffontiau gan ddefnyddio gosodiadau'r porwr neu ddyfais,
- chwyddo i mewn hyd at 400% heb i'r testun ollwng oddi ar y sgrin,
- llywio'r wefan gan ddefnyddio bysellfwrdd neu feddalwedd adnabod lleferydd, a
- gwrando ar y rhan fwyaf o'r wefan gan ddefnyddio darllenydd sgrin
Rydym hefyd wedi gwneud testun y wefan mor syml â phosibl i'w ddeall.
Mae gan AbilityNet gyngor ar wneud eich dyfais yn haws i'w defnyddio os oes gennych anabledd.
Ymdrechion Parhaus
Fel gwefan sydd newydd ei lansio, efallai y bydd rhwystrau hygyrchedd annisgwyl. Rydym wedi ymrwymo i adolygu a gwella ein gwefan yn barhaus er mwyn gwella hygyrchedd i bob defnyddiwr.
Adborth a Chyswllt
Rydym yn croesawu adborth ar hygyrchedd. Os ydych yn dod ar draws rhwystrau hygyrchedd neu os oes gennych awgrymiadau ar gyfer gwella, cysylltwch â ni:
Gweithdrefn orfodi
Mae'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC) yn gyfrifol am orfodi Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Rhaglenni Symudol) (Rhif 2) 2018 (y 'rheoliadau hygyrchedd'). Os nad ydych yn hapus â'r ffordd rydym yn ymateb i'ch cwyn, cysylltwch â'r Gwasanaeth Cynghori a Chymorth Cydraddoldeb (EASS).
Paratoi'r datganiad hygyrchedd hwn
Paratowyd y datganiad hwn ar 17 Mawrth 2026. Mae ein Tîm Gwefan wedi cynnal gwiriadau â llaw.
