This website uses cookies to improve your experience. We'll assume you're ok with this, but you can opt-out if you wish. Read More
Mae Fforwm Cydnerth Lleol De Cymru yn cynnwys cynrychiolwyr o'r holl sefydliadau hynny sy'n ofynnol i baratoi ar gyfer argyfwng mawr o fewn ffin Heddlu De Cymru ac ymateb iddo.
Mae'r Gofrestr Risg Gymunedol wedi'i llunio gan Fforwm Cydnerth Lleol De Cymru ac mae'n darparu gwybodaeth am y prif risgiau ac argyfyngau sydd â'r potensial i gael effaith sylweddol ar gymunedau a busnesau yn ardal De Cymru fel y gallwn baratoi’n well.
Gall argyfyngau fel llifogydd, tanau a thoriadau mewn pŵer effeithio arnom ni i gyd.
Mae yna rai camau syml ac effeithiol y gallwn ni i gyd eu cymryd i fod yn fwy parod.
Rydym wedi dod â chanllawiau byr ynghyd yn esbonio'r prif risgiau yn Ne Cymru a'r camau syml y gallwch eu cymryd i baratoi ar eu cyfer.